Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf (HSDdCyf) yn dod â phrofiad ffitrwydd trochi cyntaf Future Studios i Gymru fel rhan o’i fuddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau iechyd a ffitrwydd.

Y ‘Stiwdio 360’ newydd yng Nghlwb y Rhyl fydd yr unig ofod ffitrwydd trochi o’i fath yn y wlad pan fydd yn agor y mis hwn.

Wedi’i gyflwyno drwy Fframwaith Hamdden y DU, sy’n cael ei reoli gan HSDdCyf ac Alliance Leisure, bydd y gofod iechyd a lles arloesol yn cynnig profiadau trochi, hollgynhwysol i ennyn diddordeb ac ysbrydoli cyfranogwyr ymarfer grŵp presennol a denu cynulleidfaoedd newydd.

Mae HSDdCyf wedi gweithio gyda’r asiantaeth greadigol Flareform i ail-bwrpasu stiwdio ymarfer corff sydd eisoes yn bodoli yng Nghlwb y Rhyl yn Sir Ddinbych i gynhyrchu amgylchedd ymarfer corff un-o-fath sy’n defnyddio tafluniad 360 ar holl waliau’r ystafell i greu golygfeydd animeiddiedig di-dor sy’n trawsnewid gyda pob dosbarth.

Mae’r dechnoleg yn galluogi’r gweithredwr i greu gosodiadau unigryw wedi’u teilwra ar gyfer sesiynau ymarfer penodol ynghyd â seinweddau a delweddau sy’n adweithio i sain. Er enghraifft, gall HSDdCyf gynnal sesiynau ymwybyddiaeth meddwl mewn coedwigoedd ac ioga ar gopa mynyddoedd, neu Zumba o amgylch fflamau dawnsio ar draeth a dosbarthiadau HIIT mewn clwb nos.

Bydd y buddsoddiad nid yn unig yn gwella’r cynnig iechyd a ffitrwydd yng Nghlwb y Rhyl, ond bydd yn galluogi HSDdCyf i ddarparu profiadau sy’n apelio at bobl o bob oed a demograffeg i helpu i annog mwy o aelodau o’r gymuned i gymryd rhan mewn ymarfer corff.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDdCyf: “Ein nod yw darparu un o’r clybiau ffitrwydd mwyaf arloesol a chyffrous yng Nghymru. Gan ddefnyddio technoleg Future Studios, gallwn greu unrhyw amgylchedd trochi y mae pobl eisiau ymarfer corff ynddo. Mae’n golygu y gall defnyddwyr fwynhau profiad gwahanol bob tro y byddant yn ymweld â dosbarth, gall ein hyfforddwyr ddarparu sesiynau hyd yn oed yn fwy deniadol a gallwn gynnig rhywbeth i bawb. Fel y profiad ymarfer grŵp trochi cyntaf o’i fath yng Nghymru, bydd Stiwdio 360 yn mynd â’r rhaglen dosbarth HSDdCyf i lefel arall.”

Dywedodd Joe Robinson, cyd-sylfaenydd Future Studios a chyfarwyddwr creadigol Flareform: “Rydym wrth ein bodd yn cydweithio â HSDdCyf wrth i ni gychwyn ar y daith hon i gyflwyno profiadau newydd sbon i’r aelodau. O’r rhyngweithiad cyntaf un, mae hi wedi bod yn amlwg ein bod yn gweithio gyda chwsmer sy’n rhannu ein hangerdd dros arloesi a rhagoriaeth. Mae eu brwdfrydedd dros y prosiect hwn yn ysbrydoledig, ac mae’n cyd-fynd yn berffaith â’n gweledigaeth greadigol ar gyfer y cynnyrch. Rydym yn wirioneddol yn teimlo’n freintiedig i fod yn rhan o’r bartneriaeth hon ac yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau anhygoel y byddwn yn eu cyflawni gyda’n gilydd.”