Nofio
Nod ein rhaglen Datblygu Nofio yw cynyddu cyfranogiad nofio i bobl o bob oed mewn cydweithrediad â Menter Nofio am Ddim y Cynulliad Cymreig. Mae’r fenter yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc dan 16 oed gyfranogi mewn nofio am ddim yn ystod yr holl wyliau ysgol ac mae’n cynnwys gweithgareddau fel gwersi nofio, snorcelio, polo dŵr, nofio anabledd, sesiynau rhieni a babanod a sesiynau offer chwythu.
Rydyn ni hefyd yn darparu nofio am ddim i bobl dros 60 ym mhob un o Byllau Nofio Sir Ddinbych.
Mae’r Tîm Datblygu Chwaraeon hefyd yn darparu rhaglen addysg hyfforddwyr cynhwysfawr ar gyfer athrawon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr nofio.
I gael gwybodaeth bellach am sesiynau’r Fenter Nofio am Ddim presennol cliciwch ar un o’r dolenni isod.
Straeon Newyddion Diweddaraf
Amserlen Nofio am Ddim 60 +
Amserlen Nofio Anabledd
Sesiynau Achubwyr Bywyd i Recriwtiaid Newydd
Sesiynau Triathlon Iau
Sesiynau Snorcelio
Sesiynau Polo Dŵr
I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfannau Hamdden Sir Ddinbych ac amserlenni nofio cliciwch yma.
