Datblygu Chwaraeon
Mae’r adran hon yn darparu amrywiol wybodaeth ynglŷn â Thîm Datblygu Chwaraeon Sir Ddinbych a sut y mae’n gweithredu.
Bydd tîm Datblygu Chwaraeon Sir Ddinbych yn cymryd y cam cyntaf arweiniol, gan weithio gyda phartneriaid allweddol, i gyflawni 'gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon' y Sir a chynllun busnes y Gwasanaeth.
Mae’n Tîm Datblygu Chwaraeon yn ymfalchïo yn ei waith caled a’i arloesedd wrth gyflenwi 'dewislen o gyfleoedd' ar gyfer y preswylwyr yn Sir Ddinbych. Eleni rydym wedi datblygu’r rhaglen ymhellach i gynnwys cynllun datblygu Ffyrdd Gweithgar Iachach o Fyw sy’n cynnig y cyfle o ffordd iachach o fyw i breswylwyr Sir Ddinbych drwy weithgaredd corfforol. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau megis Cerdded i Ffitrwydd, Loncian i Ffitrwydd a Beicio i Ffitrwydd sydd eisoes wedi cael effaith enfawr yn y Sir.
Drwy’n nodau a’n hamcanion, mae’r tîm Datblygu Chwaraeon yn parhau i ddarparu ar gyfer pob angen o ran chwaraeon, ni waeth pa un a ydych yn ddechreuwr, yn athletwr medrus, yn hyfforddwr posibl neu’n wirfoddolwr. Rydym yn anelu at ymdrechu am welliant yn barhaus a chroesäwn unrhyw awgrymiadau, syniadau neu sylwadau ynghylch lefel y gwasanaeth a ddarparwn.
Ein Gweledigaeth
- Mae’r Tîm Datblygu Chwaraeon yn cymryd yr awenau gyda phartneriaid allweddol i gyflawni ‘gweledigaeth ar gyfer chwaraeon’ y Sir.
- Mae’r tîm yn cyflenwi ‘dewislen o gyfleoedd’ i bobl Sir Ddinbych, yn cynnwys datblygu chwaraeon o fewn ysgolion, clybiau ac amrywiol fudiadau.
- Athroniaeth y tîm Datblygu Chwaraeon yw sicrhau bod plant a phobl ifanc ac oedolion i gyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon cynaliadwy o ansawdd uchel.
Ein Hamcanion
- Datblygu Chwaraeon – cynyddu cyfranogiad drwy fentrau chwaraeon ysgol (yn yr ysgol ac ar ôl ysgol), hyfforddiant o ansawdd, cynorthwyo a datblygu chwaraewyr, datblygu clybiau, perfformiad a rhagoriaeth, datblygu a marchnata cyfleusterau.
- Datblygu Chwaraeon Cymunedol – defnyddio chwaraeon fel cyfrwng i wella ffyrdd iachach o fyw, cynhwysiant cymdeithasol, addysg a dysgu gydol oes, datblygu amgylcheddol, adfywio economaidd a diogelwch cymunedol.
- Addysg a Hyfforddiant – addysg hyfforddwyr, datblygu hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, system cymorth mentora, rhaglen recriwtio a chadw gwirfoddolwyr.
