Grantiau a Chyllid

 

Grant y Gist Gymunedol yn Sir Ddinbych

Awydd £1,500 tuag at eich prosiect chwaraeon cymunedol?

Mae'r Gist Gymunedol nawr yn cynnig grantiau o hyd at £1,500 mewn unrhyw gyfnod 12 mis ar gyfer prosiectau sy'n:

Pwy gaiff wneud cais?

Mae'r cynllun yn agored i unrhyw grŵp sy'n dymuno trefnu gweithgareddau sydd wedi eu hanelu at gael mwy o bobl i fod yn fwy gweithgar, yn amlach. Gallai hyn olygu gweithgareddau newydd neu godi safonau gweithgareddau sy'n digwydd eisoes.

Rhaid bod gan y grŵp gyfrif banc yn enw'r mudiad.

Pwy na chaiff wneud cais?

Nid yw'r cynllun hwn yn agored i aelodau unigol y cyhoedd, ysgolion cynradd neu gyrff cysylltiedig sy'n trefnu gweithgareddau i blant, nac i ysgolion uwchradd sy'n rhan o'r cynllun 5x60.

Sut i wneud cais?

Mae ffurflenni cais ar gael i'w llwytho i lawr o Wefan Chwaraeon Cymru

http://www.sportwales.org.uk/cyllid-a-chefnogaeth/grantiau-ein-/y-gist-gymunedol.aspx?lang=cy&

Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried gan eich pwyllgor lleol trwy gydol y flwyddyn. Mae'r pwyllgor yn cyfarfod rhyw 6 gwaith y flwyddyn. Fel rheol, dylid cyflwyno cais o leiaf 3 mis cyn y dyddiad y bwriedir cychwyn y prosiect.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Swyddog y Gist Gymunedol yn eich Awdurdod Lleol:

Sian Bennett

Rheolwr Rhaglen Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol

01824 712710

Sian.bennett@sirddinbych.gov.uk

Gwasanaethau Hamdden

46 Stryd Clwyd

Yr Hen Garchar

Rhuthun

Sir Ddinbych

LL15 1HP

Pwyllgor y Gist Gymunedol yn Sir Ddinbych: Rhaglen Cyfarfodydd a Dyddiadau Cau 2012/13 ar gyfer derbyn ceisiadau wedi eu cwblhau:

 

              Dyddiad Cau                                Cyfarfod

1.         19 Mawrth 2012                            2 Ebrill 2012

 

2.           14 Mai 2012                                  28 Mai 2012

 

3.           2 Gorffennaf 2012                 16 Gorffennaf 2012

 

4.           10 Medi 2012                                  24 Medi 2012

 

5.          12 Tachwedd 2012                      26 Tachwedd 2012

 

6.           14 Ionawr 2013                             28 Ionawr 2013

 

  

Am wybodaeth ar grantiau eraill, gan gynnwys y Grant Datblygu, Sportsmatch Cymru a Coach Cymru ewch i

http://www.sportwales.org.uk/funding--support.aspx

 

Cerdyn Aur Gogledd Cymru

 

Mae cynllun Cerdyn Aur Gogledd Cymru yn cynnig cefnogaeth i athletwyr talentog yng Ngogledd Cymru sy'n cynrychioli Cymru ar hyn o bryd. Mae'r cynllun yn rhoi mynediad i gyfleusterau hamdden awdurdodau lleol i ymgeiswyr llwyddiannus er mwyn iddynt hyfforddi yn Sir Ddinbych, Ynys Môn, Conwy, Sir y Fflint, Wrecsam a Gwynedd.

Bydd ymgeiswyr cymwysedig yn rhai sy'n byw yn ardal y 6 awdurdod lleol uchod, a rhaid iddynt fod yn aelod cyfredol o dîm neu sgwad cenedlaethol corff llywodraethol cenedlaethol. Rhaid i ymgeiswyr nad yw eu chwaraeon yn cymryd rhan mewn digwyddiadau rhyngwladol a/neu sy'n cystadlu fel unigolyn, fod wedi gorffen yn y tri lle cyntaf mewn Pencampwriaeth Genedlaethol a drefnwyd gan gorff llywodraethol cenedlaethol gweithgaredd, yn y 12 mis diwethaf.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cerdyn aelodaeth blwyddyn a bydd ganddynt hawl i fynychu cyfleusterau ac offer penodol, yn dibynnu ar eu rhaglen hyfforddi.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:

Sian Bennett

Rheolwr Rhaglen Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol

01824 712710

Sian.bennett@sirddinbych.gov.uk

Gwasanaethau Hamdden

46 Stryd Clwyd

Yr Hen Garchar

Rhuthun

Sir Ddinbych

LL15 1HP  

  

Grant Athletwyr Talentog y Rhyl

 

Ydych chi'n athletwr talentog, neu ydych chi wedi cael cyfle i gystadlu neu hyfforddi gyda sgwad y Sir? Os ydych yn byw yn y Rhyl yna efallai y medrwch wneud cais am Grant Athletwyr Talentog y Rhyl.

Ystyrir ceisiadau gan athletwyr unigol sydd wedi cyrraedd, neu sydd â'r potensial i gyrraedd lefel Sirol, Ranbarthol neu Genedlaethol yn eu sbort penodol hwy.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:

Brett Jones

Swyddog Datblygu Gweithgaredd Corfforol y Rhyl

07990 561024

Brett.jones@sirddinbych.gov.uk

Cefnogir y grant gan Gyngor Tref y Rhyl.