Tystebau Atgyfeiriadau Ymarfer
Beth mae’n cleientiaid yn ei ddweud:
S’mâi ! F’enw i ydi Clwyd Kelly a byddwn yn hoffi rhannu fy mhrofiadau ar y cynllun ENILLWYR.
Fe glywais am y Cynllun ENILLWYR gyntaf pan gefais i weithred ar y galon y llynedd. Roeddwn wedi bod yn mynd i sesiwn GIG i bobl yn dod dros driniaethau ar y galon ac yna euthum ar y rhaglen ENILLWYR.
Gan fod gennyf broblem gyda’r galon, dechreuais yn araf a chynyddu fy lefel ffitrwydd. Roedd fy hyfforddwr Julie, yn wirioneddol glên ac fe wnaeth imi deimlo’n hyderus iawn.
Rwyf wedi colli pwysau ac mae fy mhwysau gwaed wedi gostwng ond mae fy lefel ffitrwydd yn wirioneddol dda yn awr.
Rwyf wedi llwyddo i gymhwyso fel Hyfforddwr Cerdded Nordig ac rwyf bellach yn arwain teithiau cerdded o gwmpas Dinbych. Bob dydd Iau rwyf yn arwain taith yn benodol i’r cynllun ENILLWYR ac fel hyn rwyf yn awr yn gallu helpu pobl ac annog pobl gan fy mod yn gwybod sut maen nhw’n teimlo !
Darn o lythyr a dderbyniwyd yn ddiweddar:
“Cynllun Atgyfeirio ENILLWYR Mae fy ngŵr a minnau newydd orffen y Cynllun Atgyfeirio ENILLWYR 16 wythnos gyda Julie, ac roeddwn ag eisiau llongyfarch y Cyngor am y cyfle i fynychu’r Cynllun campus yma.
Dim ond drwy siawns y cefais wybod amdano, wrth lusgo at y Meddygon gyda chefn drwg, (osteoporosis yn cael ei achosi gan gyffur canser y mae’n rhaid imi ei gymryd) pan fûm yn ddigon ffodus i weld Dirprwy Feddyg, a ofynnodd a fyddwn yn hoffi cael fy nghynnig i fynd ar y Cynllun. Mae’r ddau ohonom wedi dysgu cymaint am ddeiet, straen a ffitrwydd, a bu Julie’n gymorth ac yn ysbrydoliaeth mor anhygoel inni, gan ein harwain a chynyddu ein ffitrwydd i’r lefel yr ydym wedi’i chyrraedd yn awr, ac mae’r diolch iddi hi ein bod ill dau wedi mendio o ran cryfder a hyder.
Teimlwn inni fod yn eithriadol o lwcus ein bod wedi cael gwybod am y cynllun a’n bod wedi cael y cyfle i’w fynychu. Rwyf yn meddwl y dylai’r cynllun gael ei hysbysebu’n fwy agored mewn Meddygfeydd gan fy mod yn siŵr fod peth wmbredd o bobl yn dioddef yn ddi-angen pan fo help o’r fath ar gael iddyn nhw.”
