Chwaraeon Anabledd

 

Croeso i Chwaraeon i Bobl Anabl yn Sir Ddinbych!

Mae Rhaglen Ddatblygu Gymunedol Genedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru, Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru a’r 22 awdurdod lleol ar draws Cymru. Mae’r cynllun yn anelu at ddatblygu cyfleoedd chwaraeon a hamdden o safon yn y gymuned i bobl anabl drwy Gymru i gyd.

 

Yn Sir Ddinbych mae gennym nifer o gyfleoedd sydd ar gael ac rydych yn cael siawns hefyd i ddweud eich barn am yr hyn yr hoffech ei weld yn digwydd yn eich Sir.  Cynhelir Fforwm Chwaraeon Anabledd bob chwech i wyth wythnos mewn amrywiol fannau o amgylch y sir gyda chyfle i roi cynnig ar weithgareddau a chwaraeon newydd.  Fforwm anffurfiol yw hwn i unrhyw un gydag anabledd sydd ag eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol, unrhyw hyfforddwyr neu wirfoddolwyr, gofalwyr o rieni a darparwyr gwasanaethau sy’n dymuno ymwneud â chwaraeon anabledd.

 

 
Os oes gennych ddiddordeb mewn chwarae rhan yn y gweithgareddau fel gwirfoddolwr, fel hyfforddwr neu fel aelod, yna peidiwch â phetruso i gysylltu â mi!

Edrychaf ymlaen at glywed gennych yn fuan!

Am wybodaeth bellach ar yr holl sesiynau, cysylltwch â:

 

Swyddog Chwaraeon Anabledd

01824 712700