Amdanom Ni
Ein gweledigaeth yw dathlu Hamdden yn Sir Ddinbych drwy ddarparu gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden cynhwysol i greu cymunedau sy’n iachach ac yn fwy llewyrchus a gwasanaeth sy’n sylfaenol i gyfoethogi bywydau pobl. Ein nod yw darparu ystod o brofiadau sy’n annog cyfranogiad, rhyngweithiad a chyflawniad personol.
Mae Hamdden yn gwbl ymroddedig i gynyddu lefelau gweithgaredd corfforol drwy ymgynghori’n rheolaidd ac ymgysylltu’n lleol â’n cymunedau a thrwy weithio gydag a thrwy eraill, i greu amgylchedd sy’n cefnogi ac yn darparu cyfle ar gyfer gweithgareddau sy’n saff ac yn iach.
Yn y tair blynedd nesaf, bydd Hamdden yn Sir Ddinbych yn canolbwyntio ar dargedau mesuradwy allweddol sy’n cyfrannu tuag at gyflawni’r targedau strategol cenedlaethol a osodwyd yn yr agenda Dringo’n Uwch, wrth ddal i ystyried ein gwerthoedd craidd o symbylu, gwella cyrhaeddiad, gwella iechyd, creu cydberthynas a hyder, annog creadigrwydd ac annog cyfranogiad.
Dyma gyfle i chi weld beth a gynigir o ran chwaraeon a chyfleoedd hamdden yn Sir Ddinbych. Mae gennym ni dîm pwrpasol o staff proffesiynol sy’n cydweithio i ddarparu’r chwaraeon a’r gwasanaethau hamdden gorau posib ac rwy’n eich annog i ffeindio beth sy’n digwydd drwy wirio pob rhan o’n gwefan. Rwy’n gobeithio y byddwch yn gallu dod o hyd i weithgaredd sy’n eich siwtio chi ac y byddwch chi’n gallu cymryd rhan mewn rhyw ffordd. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r wefan ac os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu adborth llenwch y ffurflen ymholiadau cyffredinol drwy glicio ar ‘cysylltu â ni’.
Yr hyn a wnawn ni:
Mae’r Adran Gwasanaethau Hamdden yn gyfrifol am reoli ystod o gyfleusterau hamdden dan do ac yn yr awyr agored ac mae’n arwain gyda phartneriaid allweddol i gyflawni ‘gweledigaeth chwaraeon, hamdden a bywydau gweithgar iachach’ y Sir. Mae hyn yn sylfaenol i wella iechyd a lles pobl yn Sir Ddinbych, drwy roi’r cyfle i breswylwyr gyfranogi, ffynnu a chyflawni. Mae ein gwasanaeth yn darparu cyfleoedd i breswylwyr Sir Ddinbych sy’n cynnwys datblygu chwaraeon a hamdden o fewn canolfannau, ysgolion, adeiladau cymunedol, clybiau a gwahanol sefydliadau. Athroniaeth y gwasanaeth yw sicrhau fod pob plentyn a pherson ifanc, oedolyn a grwpiau allweddol eraill fel Merched a Genethod, grwpiau Anabl a grwpiau sydd wedi dadrithio, yn cael cyfle, waeth beth fo’u gallu neu eu hamgylchiadau, i gyfranogi mewn gweithgareddau chwaraeon a hamdden sy’n gynaliadwy ac o safon.
Gwasanaethau Hamdden – datblygu chwaraeon
Mae ein Gwasanaeth yn darparu cyfleoedd chwaraeon a hamdden i wella ansawdd bywyd yn lleol, i wella iechyd a lles, i gyfrannu tuag at adfywiad economaidd lleol ac i ddatblygu rhagoriaeth mewn chwaraeon.
Gwasanaethau Hamdden – Canolfannau Hamdden
Mae cyfleusterau ein Gwasanaeth yn cynnwys 7 Canolfan Hamdden o ansawdd, 5 o Neuaddau Tref a Phentref Cymunedol sy’n rhoi cyrchiad i gyfleoedd hamdden ar gyfer y gymuned leol. Hefyd mae ein gwasanaeth yn darparu 5 o Ganolfannau Ffitrwydd y Sir yn cynnwys offer gym o ansawdd.
Rhaglen Datblygu Chwaraeon Penodol
Ein nod yw cynyddu cyfranogiad drwy fentrau chwaraeon ysgol (Cwricwlaidd ac Allgyrsiol), hyfforddiant o ansawdd, cefnogi a datblygu chwaraewyr, datblygu clybiau, perfformiad a rhagoriaeth.
Mentrau Nofio am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru (dan 16 a 60+)
Rydyn ni’n darparu Rhaglen Nofio gyda Hyfforddiant a Nofio am Ddim achlysurol drwy gydol y flwyddyn.
Rhaglen Chwaraeon Anabledd
Mae ein Gwasanaeth yn hwyluso ystod eang o gyfleoedd chwaraeon a chyfleoedd corfforol sy’n adlewyrchu ac sy’n cyfarfod ag anghenion ystod o amhariadau a galluoedd.
Datblygu Chwaraeon Cymunedol
Rydyn ni’n darparu chwaraeon fel dull o wella bywydau iachach, cynhwysiant cymdeithasol, datblygiad addysgol, datblygiad amgylcheddol, adfywiad economaidd a diogelwch cymunedol.
Addysg a Hyfforddiant
Rydyn ni’n darparu addysg Hyfforddwyr, datblygiad hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, system o gefnogi mentora, rhaglen o recriwtio a chadw gwirfoddolwyr.
Gweithgaredd Corfforol - Strategaeth Iechyd Gofal Cymdeithasol a Lles
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’r Uned Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles i ddatblygu elfennau gweithgarwch corfforol y strategaeth IGCLl.
Gweithgarwch Corfforol - Cynllun Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc
Rydyn ni’n gweithio efo’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc gan gefnogi 7 amcan craidd y Cynllun Plant a Phobl Ifanc, o 0-10 ac 11-25.
Rhaglen Pobl Ifanc Egnïol - gweithgarwch corfforol Chwaraeon y Ddraig ar gyfer plant ysgolion cynradd
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd i ddatblygu a darparu rhaglenni gweithgarwch corfforol allgyrsiol yn unol â Strategaeth Dringo’n Uwch Llywodraeth Cynulliad Cymru a thargedau allweddol cyfranogiad plant 7-11 oed.
Rhaglen Pobl Ifanc Egnïol - gweithgarwch corfforol 5x60 ar gyfer plant ysgolion cynradd
Nod ein gwasanaeth yw cynyddu nifer y plant sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch allgyrsiol, gan ddilyn targedau Llywodraeth Cynulliad Cymru o ddatblygu 5x60 munud o weithgarwch corfforol yr wythnos.
Cynllun Atgyfeirio i wneud Ymarfer Corff
Mae ein Gwasanaeth yn darparu rhaglen o ymarfer corff i Weithwyr Iechyd Proffesiynol gyfeirio cleientiaid sydd â chyflyrau corfforol a meddyliol i wneud gweithgarwch corfforol. Mae hyn yn cynnwys Cyflyrau Lefel 4, Adsefydlu Cardiaidd Cyfnod IV, Adsefydlu Cleifion yr Ysgyfaint a rhaglen Adsefydlu yn dilyn Codwm.
Jamie Groves
Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden
