Rhaglen 5x60
Mae’r rhaglen 5x60 yn cyfrannu at strategaeth Creu Cymru Egnïol Cynulliad Cymru ble mae chwaraeon, gweithgaredd corfforol a hamdden yn darparu platfform cyffredin ar gyfer cymryd rhan, hwyl a chyflawni.
Yn Sir Ddinbych, mae swyddogion 5x60 yn Ysgol Uwchradd Prestatyn, Ysgol y Santes Ffraid, Ysgol Uwchradd Babyddol y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol Uwchradd Y Rhyl, Ysgol Dinas Brân, Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Brynhyfryd yn darparu cyfoeth o chwaraeon a gweithgareddau corfforol i bobl ifanc ar draws y sir.
Mae swyddogion 5x60 yn ymgynghori â phobl ifanc yn yr ysgolion, yn gwrando ar eu hanghenion a’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgaredd. Byddant yn amserlennu rhaglen o weithgareddau sy’n addas ar gyfer anghenion y disgyblion. Gall y gweithgareddau hyn ddigwydd cyn yr ysgol, yn ystod amser cinio, ar ôl ysgol ac ar benwythnosau. Gan amlaf bydd y gweithgareddau’n targedu unigolion nad ydynt yn cymryd rhan ar hyn o bryd neu sydd mewn perygl o golli diddordeb.
Y mathau o weithgareddau sydd wedi bod yn llwyddiannus;
• Gweithgareddau cystadleuol traddodiadol. Byddai hyn yn barhad o’r mathau o weithgareddau y maent wedi’u mwynhau’n barod drwy Gampau’r Ddraig a hefyd chwaraeon newydd eraill megis osgoi’r bêl, pêl-fasged a badminton. Gall y gweithgareddau hyn gael eu cynnig drwy gystadlaethau rhwng tai/dosbarthiadau ac arhosodd llawer mwy o ddisgyblion yn gyfrannog.
• Gweithgareddau hamdden megis dawns, aerobeg, ffitrwydd, trampolinio, a bu galw mawr am y mathau hyn o weithgareddau mewn rhaglenni blaenorol.
• Gweithgareddau a hyfforddir mewn awyrgylch mwy anffurfiol yn rhoi cyfle i ddisgyblion ennill maint rhesymol o fedr ac felly fwynhau’r gêm ychydig yn fwy.
• Gweithgareddau yn yr Awyr Agored. Mae gan Gymru adnodd naturiol enfawr sydd ar gael i bawb. Mae pobl ifanc yn cael cynnig y cyfle i brofi gweithgareddau megis arforgampau, syrffio, canŵio, dringo a beicio mynydd. Mae’r profiad hwn yn eu cyflenwi â’r hyder i barhau i ddilyn eu diddordeb pan fyddant yn oedolion. Mae dod o hyd i ddarparwyr addas yn rhan fawr o rôl y swyddog 5x60. Maent yn darparu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer y disgyblion hŷn yn yr ysgol; mae hyn yn cefnogi cyflwyno’r rhaglen. Mae’r hyfforddiant yn cyflenwi’r disgyblion â chymhwyster ac yn eu galluogi i gyfrannu at y gweithlu yn rhinwedd y swydd yma. Mae gwirfoddolwyr a hyfforddwyr o’r gymuned leol â rhan mewn cyflwyno’r rhaglen hefyd.
Mae darparu cysylltiadau clwb a llwybrau ymadael i’r disgyblion yn hanfodol i wneud y rhaglen yn gynaliadwy. Disgwylir y bydd 5x60 yn datblygu mwy o ddiddordeb mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol mewn amryw o ffurfiau. Mae angen i’r swyddogion 5x60 wneud y cysylltiadau â’r gymuned a thimau datblygu chwaraeon er mwyn gallu cwrdd â’r galw yma.
Rhagwelir y bydd y disgyblion yn cael y cyfle drwy’r rhaglen hon i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau nad ydynt ar gael iddynt yn yr ysgol ar hyn o bryd. Mae gan y bobl ifanc berchenogaeth ar y rhaglen ac maent yn gallu ei siapio i gyd-fynd â’u hanghenion. Mae ethos 5x60 yn debyg i ’Campau’r Ddraig yn yr ystyr mai’r prif darged yw i ddisgyblion gael hwyl tra byddant yn cymryd rhan. Os yw hyn yn digwydd a bod y disgyblion yn wir fwynhau’r cyfleoedd, yna maent yn fwy tebygol o barhau i gymryd rhan mewn gweithgaredd ar hyd eu bywydau.
Mae gwefan 5x60 un pwrpas wedi’i datblygu i egluro mwy am y cynllun 5x60.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Sian Bennett
Rheolwr Rhaglen Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol
01824 712710
Sian.bennett@sirddinbych.gov.uk
Carchar Rhuthun
46 Stryd Clwyd
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1HP
